Oeddet ti’n gwybod bod gan YouVersion Deulu o Apiau Beibl? O blant, i bobl ifanc, i oedolion—mae pawb yn ymgysylltu â Gair Duw mewn ffordd wahanol. Dyna pam dŷn ni wedi creu apiau wedi’u hanelu at bobl mewn gwahanol ddemograffeg a rhanbarthau.
Darganfydda pa ap Beibl sydd orau i ti!
Yn cyflwyno: Bible Loop
Bible Loop yw aelod diweddaraf ein Teulu o Apiau! Wedi’i greu ar gyfer pobl ifanc, mae Bible Loop yn cynnig gweithgareddau diddorol, nodweddion rhyngweithiol, a gemau i ddysgu a chofio’r Ysgrythur. Os wyt ti’n berson ifanc, neu os oes gen ti un yn dy fywyd, fyddi di ddim eisiau colli hwn.
Ap Beibl i Blant
Mae’r ap hwn ar gyfer y plant ifanc yn dy fywyd. Yn Bible App for Kids, fe weli storïau Beiblaidd trochol a gemau rhyngweithiol sydd wedi’u creu i helpu plant i syrthio mewn cariad â Duw a’i Air.
Ap Beibl
Tyrd i gwrdd â’r ap Beibl a lawrlwythir fwyaf yn y byd! Gyda mynediad at dros 3,500 o gyfieithiadau, 2,300 o ieithoedd, a miloedd o Gynlluniau Beibl, nid yw erioed wedi bod yn haws treulio amser yng Ngair Duw mewn ffordd sy’n gweithio i ti.
Ap Beibl Lite
Mae Bible App Lite yn caniatáu i ti brofi Gair Duw all-lein, unrhyw le, ar unrhyw adeg. Mae’r ap hwn ar gael mewn rhanbarthau penodol.
Bydd yn rhan o Her 30 Diwrnod drwy lawrlwytho un o’r apiau hyn! Ac, o 1 Tachwedd ymlaen, ymgysyllta â’r Ap Beibl am 30 diwrnod yn olynol, ac enilla Fathodyn unigryw Mis Byd-eang y Beibl.
Mae'r swydd hon hefyd ar gael yn:

