Yr ARGLWYDD yw fy mugail

Yr ARGLWYDD yw fy mugail

1  
Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.

2  
Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel

3  
ac y mae ef yn fy adfywio. Fe’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.

4  
Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a’th wialen a’th ffon yn fy nghysuro.

5  
Yr wyt yn arlwyo bwrdd o’m blaen yng ngŵydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.

6  
Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o’m bywyd, a byddaf yn byw yn nhŷ’r ARGLWYDD weddill fy nyddiau.

Psalm 23 in Welsh

Psalm 23 in English

Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu-

Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu-

28  
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.

29  
Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe’u hadnabu, a’u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â’i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer.

30  
A’r rhai a ragordeiniodd, fe’u galwodd hefyd; a’r rhai a alwodd, fe’u cyfiawnhaodd hefyd; a’r rhai a gyfiawnhaodd, fe’u gogoneddodd hefyd.

31  
O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn?

32  
Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef?

33  
Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r un sy’n dyfarnu’n gyfiawn.

34  
Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw’r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom.

35  
Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf?

36  
Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae’n ysgrifenedig: “Er dy fwyn di fe’n rhoddir i farwolaeth drwy’r dydd, fe’n cyfrifir fel defaid i’w lladd.”

37  
Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy’r hwn a’n carodd ni.

38  
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol

39  
na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Romans 8 in Welsh

Romans 8 in English

Myfi yw goleuni’r byd

Myfi yw goleuni'r byd

Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. “Myfi yw goleuni’r byd,” meddai. “Ni bydd neb sy’n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni’r bywyd.”

Ioan 8:12

Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu’n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau.

Eseia 9:2

Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a’m gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?

Y Salmau 27:1

Oherwydd y Duw a ddywedodd, “Llewyrched goleuni o’r tywyllwch”, a lewyrchodd yn ein calonnau i roi i ni oleuni’r wybodaeth am ogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.

2 Corinthiaid 4:6

Ond os yw Crist ynoch chwi, y mae’r corff yn farw o achos pechod, ond y mae’r Ysbryd yn fywyd ichwi o achos eich cyfiawnhad. Os yw Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu oddi wrth y meirw yn cartrefu ynoch, bydd yr hwn a gyfododd Grist oddi wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd hefyd i’ch cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd, sy’n ymgartrefu ynoch chwi.

Rhufeiniaid 8:10-11

tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni

Effesiaid 5:8

ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â’n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod. Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw’r gwirionedd ynom. Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a’n glanhau o bob anghyfiawnder.

1 Ioan 1:7-9

Chwi yw goleuni’r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn. Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll ac yn ei rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ. Felly boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

Mathew 5:14-16

Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.

Ioan 1:5

Y mae cariad yn amyneddgar, y mae cariad yn gymwynasgar

Y mae cariad yn amyneddgar, y mae cariad yn gymwynasgar

4  
Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo.

5  
Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam

6  
nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd.

7  
Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.

8  
Nid yw cariad yn darfod byth. Ond proffwydoliaethau, fe’u diddymir hwy; a thafodau, bydd taw arnynt hwy; a gwybodaeth, fe’i diddymir hithau.

9  
Oherwydd anghyflawn yw ein gwybod ni, ac anghyflawn ein proffwydo ni.

10  
Ond pan ddaw’r hyn sy’n gyflawn, fe ddiddymir yr hyn sy’n anghyflawn.

11  
Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu. Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau’r plentyn.

12  
Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur; ond yna cawn weld wyneb yn wyneb. Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod.

13  
Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A’r mwyaf o’r rhain yw cariad.

1 Corinthians 13 in Welsh

1 Corinthians 13 in English