Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu-

Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu-

28  
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.

29  
Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe’u hadnabu, a’u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â’i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer.

30  
A’r rhai a ragordeiniodd, fe’u galwodd hefyd; a’r rhai a alwodd, fe’u cyfiawnhaodd hefyd; a’r rhai a gyfiawnhaodd, fe’u gogoneddodd hefyd.

31  
O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn?

32  
Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef?

33  
Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r un sy’n dyfarnu’n gyfiawn.

34  
Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw’r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom.

35  
Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf?

36  
Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae’n ysgrifenedig: “Er dy fwyn di fe’n rhoddir i farwolaeth drwy’r dydd, fe’n cyfrifir fel defaid i’w lladd.”

37  
Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy’r hwn a’n carodd ni.

38  
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol

39  
na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Romans 8 in Welsh

Romans 8 in English