1
Y mae’r sawl sy’n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog
2
yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a’m caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”
3
Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol
4
bydd yn cysgodi drosot â’i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.
5
Ni fyddi’n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd
6
rhag pla sy’n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy’n difetha ganol dydd.
7
Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir â thi.
8
Ni fyddi ond yn edrych â’th lygaid ac yn gweld tâl y drygionus.
9
Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa
10
ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell.
11
Oherwydd rhydd orchymyn i’w angylion i’th gadw yn dy holl ffyrdd
12
byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.
13
Byddi’n troedio ar y llew a’r asb, ac yn sathru’r llew ifanc a’r sarff.
14
“Am iddo lynu wrthyf, fe’i gwaredaf; fe’i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.
15
Pan fydd yn galw arnaf, fe’i hatebaf; byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a’i anrhydeddu.
16
Digonaf ef â hir ddyddiau, a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth.”