Posted on 2021-06-01 by Myfi yw goleuni’r byd Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. “Myfi yw goleuni’r byd,” meddai. “Ni bydd neb sy’n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni’r bywyd.” Ioan 8:12 Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu’n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. Eseia 9:2 Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a’m gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf? Y Salmau 27:1 Oherwydd y Duw a ddywedodd, “Llewyrched goleuni o’r tywyllwch”, a lewyrchodd yn ein calonnau i roi i ni oleuni’r wybodaeth am ogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist. 2 Corinthiaid 4:6 Ond os yw Crist ynoch chwi, y mae’r corff yn farw o achos pechod, ond y mae’r Ysbryd yn fywyd ichwi o achos eich cyfiawnhad. Os yw Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu oddi wrth y meirw yn cartrefu ynoch, bydd yr hwn a gyfododd Grist oddi wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd hefyd i’ch cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd, sy’n ymgartrefu ynoch chwi. Rhufeiniaid 8:10-11 tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni Effesiaid 5:8 ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â’n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod. Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw’r gwirionedd ynom. Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a’n glanhau o bob anghyfiawnder. 1 Ioan 1:7-9 Chwi yw goleuni’r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn. Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll ac yn ei rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ. Felly boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Mathew 5:14-16 Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef. Ioan 1:5